Camu Ymlaen: Merched yn Cerdded
Prosiect newydd i fenywod 18-25 oed yn y Rhyl, Wrecsam a Chaergybi.

Bydd rhaglen gerdded newydd Ramblers Cymru yn gweithio gyda menywod ifanc 18-25 oed yn y Rhyl, Wrecsam a Chaergybi i ddatblygu rhaglen gerdded gynaliadwy a chyflwyno pobl i fanteision cerdded.
Cymerwch ran
Mae Ramblers Cymru’n chwilio am fenywod ifanc 18-25 oed i’n helpu i ddatblygu ein rhaglen. Bydd cyfleoedd i ddatblygu eich hyder wrth gerdded yn yr awyr agored, datblygu sgiliau fel darllen mapiau a llywio, a dysgu sut i gadw’n ddiogel pan ddych chi’n cerdded.
Byddwn yn gweithio gyda’r grŵp i benderfynu ar y mathau o deithiau cerdded ac i ble y byddwn yn cerdded. Does dim angen profiad – peidiwch â phoeni am gyflymder neu ffitrwydd.
Am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan, cysylltwch ag olivia.evans@ramblers.org.uk

Llwybrau a Chymunedau
Mae Ramblers Cymru yn cael eisiau rhoi cerdded wrth galon cymunedau ledled Cymru, gan eu gwneud yn lleoedd gwyrddach, iachach a mwy pleserus i ymweld â nhw, byw ynddynt, gweithio ac archwilio.

Llwybrau at Ffyniant
Cyngor Sir Powys a Ramblers Cymru yn cydweithio ar brosiect datblygu teithiau cerdded cymunedol.