Ramblers Cymru yn croesawu Leanne Wood fel eu Llysgennad newydd
Roedd cyn-arweinydd grŵp y blaid wleidyddol wrth ei bodd i ymuno â Ramblers Cymru
Bydd Leanne Wood yn ymuno â'r Ramblers i gefnogi ei genhadaeth i wella a sicrhau mynediad cyfartal i'r awyr agored i bawb, drwy roi cerdded wrth galon cymunedau.
Daw Leanne â chyfoeth o wybodaeth a brwdfrydedd i'w rôl newydd. Fel eiriolwr hir sefydlog dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, mae hi wedi bod yn ffigwr amlwg yng ngwleidyddiaeth Cymru, sy'n adnabyddus ac yn cael ei pharchu am ei gwerthoedd cymdeithasol cryf.
Mae hi hefyd wrth ei bodd â'r awyr agored ac yn ystod y cyfnod clo Covid cyntaf, dechreuodd gerdded yn rheolaidd yn ei hardal leol. Sefydlodd grŵp Facebook i rannu syniadau am lefydd i gerdded, llwybrau, a ffotograffau o'i theithiau cerdded o amgylch y Rhondda i annog pobl i fynd allan a chysylltu â natur.
Yn ei swydd wirfoddol, bydd Leanne yn hyrwyddo pwysigrwydd cydraddoldeb i'r awyr agored, gan eirioli am gyfleoedd hygyrch a chynhwysol i bawb fwynhau tirweddau syfrdanol Cymru. Gan gydnabod y dylai natur fod yn agored i bawb, bydd Leanne yn ymuno â'r sefydliad wrth iddynt geisio chwalu'r rhwystrau a chreu cymuned awyr agored fwy cynhwysol.
Dywedodd Leanne Wood, Llysgennad Ramblers Cymru: "Rwyf wrth fy modd yn ymuno â Ramblers Cymru fel y Llysgennad newydd ac i barhau â thraddodiad hir y Ramblers, wrth frwydro dros gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
"I mi, mae'r awyr agored yn lle o gysur, antur ac ysbrydoliaeth. Mae gallu cysylltu â'n hamgylchedd naturiol mor bwysig i'n hiechyd a'n lles. Mae cerdded hefyd yn dda i'n cadw mewn cysylltiad â'n cymunedau, i ddysgu am hanes lleol a'n treftadaeth ddiwylliannol ac rwy'n credu y dylai mannau gwyrdd fod ar gael ac yn hygyrch i bawb.
"Mae Cymru yn wlad brydferth ond mae angen gwneud mwy i wella ein llwybrau a'n mynediad ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â thîm Ramblers Cymru a'n partneriaid i wella ein rhwydwaith llwybrau, chwalu rhwystrau, cefnogi ac annog pobl sydd ddim fel arfer yn mynd allan i gerdded i roi cynnig arni ac i helpu i greu mwy o gyfleoedd i fwy o bobl fynd allan i'r awyr agored."
Dywedodd Angela Charlton, Cyfarwyddwr Ramblers Cymru: "Mae'n anrhydedd i ni gael Leanne Wood i ymuno â ni fel Llysgennad Ramblers Cymru. O'r cyfarfod cyntaf un a gawsom gyda hi i drafod y rôl roedd yn amlwg bod ei hangerdd dros yr awyr agored a'i gwerthoedd yn cyd-fynd yn berffaith â'n cenhadaeth, ac rydym yn hyderus y bydd Ramblers Cymru yn parhau i wneud camau sylweddol wrth sicrhau gwell mynediad i'r awyr agored i bawb. Rydym yn gyffrous i weithio gyda'n gilydd i hyrwyddo cerdded a mynediad."