Mae ymchwil newydd yn dangos bod argyfwng ariannu ar gyfer llwybrau a mynediad yng Nghymru
Mae’r Cerddwyr yn galw am weithredu gwleidyddol wrth i hanner y llwybrau fod wedi’u rhwystro ac wrth i gyllid cynnal a chadw gyrraedd isafbwynt newydd

Mae ymchwil newydd gan Ramblers Cymru yn dangos bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwario llai ar lwybrau nag yr oeddent yn 2014, gydag effaith negyddol ar allu pobl i elwa o fod yn yr awyr agored a cherdded mewn natur.
Er gwaethaf mwy o ddefnydd o’r rhwydwaith llwybrau a chynnydd yn nifer y problemau a adroddwyd, mae cyllidebau yn 2025/26 32% yn llai mewn termau real nag yr oeddent yn 2014/15.
Mae cymunedau hefyd yn wynebu loteri cod post, gydag amrywiad sylweddol yn y sefyllfa ledled Cymru, gan waethygu’r bwlch presennol rhwng y rhai sydd yn gallu cael mynediad i’r awyr agored yng Nghymru, a’r rhai na allant. Mae cyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer milltir o lwybr yn amrywio o £6.90 i £371.73.
Dywedodd Angela Charlton, cyfarwyddwr Ramblers Cymru, “mae pobl yng Nghymru yn rhy aml yn canfod eu ffordd yn anhramwyadwy, gyda hanner hawliau tramwy cyhoeddus Cymru wedi’u blocio neu heb eu harwyddo.
Mae llwybrau’n rhan annatod o’r economi, gyda hamdden awyr agored gwerth £1.6 biliwn y flwyddyn ac yn cefnogi 31,000 o swyddi. Ond mae cyllid sy’n gostwng yn golygu bod awdurdodau lleol yn gynyddol ddibynnol ar grantiau wrth iddynt geisio lleihau’r ôl-groniad o broblemau ar y rhwydwaith llwybrau.
Parhaodd Ms Charlton, "nid yn unig y mae llwybrau problemus yn atal mynediad i ofodau gwyrdd, ond hefyd i’r manteision iechyd a lles sylweddol o fod yn yr awyr agored mewn natur. Nid yn unig mae hynny’n annheg – mae hefyd yn afiach”
“Mae ymchwil diweddar gan y Lancet yn dangos bod gwneud 7,000 o gamau bob dydd yn lleihau eich risg o glefyd cardiofasgwlaidd 25% a’ch risg o ddementia 38%. Mae llwybrau yn adnodd annatod ar gyfer hynny. Dyna pam, cyn etholiad y Senedd ym mis Mai, rydym yn annog gwleidyddion i ymrwymo i gynyddu cyllid ar gyfer y rhan hanfodol hon o fywyd yng Nghymru.”
Mae Grant Gwella Mynediad (GGM) Llywodraeth Cymru yn gronfa hanfodol, bwrpasol sydd yn cefnogi Awdurdodau Lleol i wneud gwelliannau i hawliau tramwy cyhoeddus, tir mynediad agored a gofodau gwyrdd. Ers 2022, mae’r GGM wedi ariannu 152 o bontydd troed newydd, 578 o gatiau, a gwelliannau i’r wyneb ar dros 140 cilomedr o lwybrau.
Fodd bynnag, o ystyried maint y broblem, mae Ramblers Cymru yn credu bod angen mwy o gynnydd a chyllid gwarantedig. Mae’r elusen yn galw ar y llywodraeth nesaf i ymrwymo i Grant Gwella Mynediad 4 blwyddyn, gwerth £24 miliwn, gan dreblu’r lefel ariannu bresennol.
Ochr yn ochr â'r newidiadau cadarnhaol sydd eisoes wedi’u sicrhau drwy Gynllun Ffermio Cynaliadwy Cymru newydd – a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr gadw llwybrau ar agor er mwyn
derbyn cyllid – byddai’r cyllid ychwanegol hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth wella hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad agored Cymru.
Cyn etholiad mis Mai, mae Ramblers Cymru yn galw am fesurau a fydd yn sicrhau bod cynnydd yn effeithiol ac yn gynaliadwy, gan gynnwys targed i gael gwared ar 10% o gamfeydd dros dymor y Senedd a strategaeth draws-sector ar gyfer cerdded yng Nghymru. Gallwch ddarllen mwy amdano yma:
Darganfod mwy

Access Denied: our vision for accessible paths across Wales
With half of Wales’s rights of way blocked or poorly maintained, access to nature is being unfairly restricted. Ramblers Cymru is urging the next government to increase path maintenance funding, remove barriers such as stiles, and adopt a cross‑sector strategy to make walking central to health, climate, and community wellbeing. A four‑year, £24 million Access Improvement Grant would ensure long‑lasting improvements for paths and green spaces across Wales.
.png?itok=D6Bu-GkL)
News & features
Our latest news, stories, views and opinions on a whole variety of topics related to the world of walking.

Ramblers Cymru
Here you’ll find updates and stories about our work and projects in Wales. We’re still adding content to this page so please bear with us and come back soon.