Mynediad wedi’i Wadu: ein gweledigaeth ar gyfer llwybrau hygyrch ledled Cymru

Mae’r Cerddwyr yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu mynediad at natur

Cyn etholiad mis Mai, rydym yn galw ar wleidyddion i wneud mynediad i’r awyr agored yn flaenoriaeth. 

 

Yn rhy aml, mae pobl yng Nghymru yn canfod eu ffordd yn anhramwyadwy, gyda hanner hawliau tramwy cyhoeddus Cymru wedi’u blocio neu heb eu harwyddo. Nid yn unig y mae hyn yn atal mynediad i ofodau gwyrdd, ond hefyd i fanteision iechyd a lles bod yn yr awyr agored.

 

Mae gwelliannau i lwybrau eisoes ar y gweill

Mae Grant Gwella Mynediad (GGM) Llywodraeth Cymru yn gronfa bwrpasol sy’n cefnogi Awdurdodau Lleol i wneud gwelliannau i hawliau tramwy cyhoeddus, tir mynediad agored a gofodau gwyrdd. Ers 2022, mae’r GGM wedi cael effaith fawr, gan ariannu 152 o bontydd troed newydd, 578 o gatiau, a gwelliannau i’r wyneb ar dros 140 cilomedr o lwybrau.

 

Mae angen mwy o gynnydd

Fodd bynnag, o ystyried maint y broblem, rydym yn credu bod angen mwy o gynnydd a chyllid gwarantedig. Rydym yn galw ar y llywodraeth nesaf i ymrwymo i Grant Gwella Mynediad 4 blwyddyn, gwerth £24 miliwn, gan dreblu’r lefel ariannu bresennol.

Ochr yn ochr â'r newidiadau cadarnhaol sydd eisoes wedi’u sicrhau drwy Gynllun Ffermio Cynaliadwy Cymru newydd – a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i ffermwyr gadw llwybrau ar agor er mwyn derbyn cyllid – byddai’r cyllid ychwanegol hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth wella hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad agored Cymru.

 

Polisïau pellach a gynigir

Yn ogystal â mwy o gyllid, rydym hefyd yn galw am fesurau a fydd yn sicrhau bod cynnydd yn effeithiol ac yn gynaliadwy, gan gynnwys:

Targed i gael gwared ar 10% o gamfeydd (2,300) dros dymor y Senedd, gan ganolbwyntio ar y lleoedd ble fydd hyn yn cael yr effaith fwyaf. Bydd hyn yn gofyn am ymdrech gydlynol gan Lywodraeth Cymru, yr Awdurdod Priffyrdd a rheolwyr tir.

Strategaeth draws-sector ar gyfer cerdded yng Nghymru, gan gynnwys iechyd, addysg, twristiaeth, amaethyddiaeth, trafnidiaeth, cynllunio, chwaraeon, a thirweddau dynodedig.

Rhaglen i helpu mwy o bobl i fod yn egnïol drwy gerdded, gan adeiladu ar brosiectau llwyddiannus diweddar, gan gynnwys ein prosiect Llwybrau i Lesiant. Bydd rhoi’r hyder a sgiliau i bobl fod yn fwy egnïol yn gorfforol, ac i gysylltu â’i gilydd a gyda natur leol, yn cynyddu lles ond hefyd lleihau’r galw ar y GIG

Ffocws newydd ar addysg i helpu pobl i wneud y gorau o gefn gwlad yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Darganfod mwy

"null"

News & features

Our latest news, stories, views and opinions on a whole variety of topics related to the world of walking. 

"null"

Ramblers Cymru

Here you’ll find updates and stories about our work and projects in Wales. We’re still adding content to this page so please bear with us and come back soon.